Olew Gewynnau Muscle Oil
Mae’r teulu Evans wedi bod yn cynhyrchu’r cymysgedd dirgel a hudolus hwn gartref ym Mhwllheli ers blynyddoedd maith. Mae’r trigolion lleol wedi bod yn prynu’r olew gewynnau anhygoel hwn ers dros 150 o flynyddoedd ac wedi credu’n gryf erioed yn ei bŵer i iachau. Roedd pobl yn galw heibio i brynu’r olew gwyrthiol hwn i wella pob math o anhwylderau – i liniaru poen y crydcymalau, y cyhyrau a’r cymalau yn ogystal â’r gewynnau. Fodd bynnag, mae’r cynhwysion a’r rysáit ynghyd â’r dull cynhyrchu yn parhau’n gyfrinach deuluol sy’n cael ei gwarchod yn ofalus. Mae Kelvin Evans, cynhyrchydd presennol yr olew ac un o ddisgynyddion y Meddygon Esgyrn gwreiddiol, yn cofio’i Daid – John Evans, a’i Dad – Gwyn Evans, yn cymysgu’r tintur hwn yn defnyddio’r un potyn clai a ffon. Gyda threigl amser a gwelliannau i gludiant, dechreuodd Gwyn Evans gyflenwi siopau lleol â’r olew. Ymysg y siopau cyntaf iddo eu cyflenwi roedd Siop Bapur Newydd Pike’s ym Mhorthmadog a siop Gigydd leol yng Nghricieth. Yn eironig, cynhyrchodd Gwyn Evans swp o’r olew iachaol – er lles eraill – ar ddiwrnod ei farwolaeth ym Mehefin 1989! Dyma pryd y cymrodd ei fab, Kelvin Evans, yr awenau i gynhyrchu Olew Gewynnau. Mae yna gynnydd wedi bod yn ddiweddar yn y galw am Olew Gewynnau, nid yn unig yn lleol, ond yn fyd-eang. Mae cannoedd o adroddiadau cadarnhaol gan ddefnyddwyr wedi arwain at hwb mawr yn ei boblogrwydd. Mae pobl sydd wedi bod yn dioddef poen di-baid ers amser maith wedi canmol pŵer yr eli hwn i leddfu a lliniaru. Yn wir, mae’n well gan rai pobl, nad ydyn nhw eisiau cael llawdriniaeth, ddefnyddio’r olew i leddfu’r boen yn eu cymalau. Mae athletwyr a mabolgampwyr cyfoes, gan gynnwys rhedwyr, dringwyr a beicwyr, yn defnyddio’r olew’n rheolaidd cyn ac ar ôl unrhyw weithgaredd egnïol. Yn ogystal, caiff Olew Gewynnau ei ddefnyddio’n gyffredin ar anifeiliaid fferm ac anwes i leddfu poen yn eu gewynnau, eu cymalau a’u cyhyrau. Mae Iechyd yn un o’r siopau lleol sy’n gwerthu Olew Gewynnau, felly beth am roi cynnig arno? Mae 150 o flynyddoedd o lwyddiant yn argymhelliad go gadarn! |
For many years, the Evans family have been producing this mysterious and magical concoction at home in Pwllheli. Locals have been purchasing the amazing muscle oil for more than 150 years and always believed emphatically in its healing power. People used to call wanting to buy the miraculous oil for all kinds of ailments - relief from rheumatic pain, muscular and joint pain as well as injured ligaments. However, the ingredients and recipe along the method of production remains a closely guarded family secret. Kelvin Evans, the current producer of the oil and a descendent of the original Bonesetters, remembers his grandfather - John Evans, and Father - Gwyn Evans, mixing this elixir using the same clay pot and stick. With the passage of time and as transport improved, Gwyn Evans started supplying local shops with the oil. Amongst the first shops he supplied where Pike’s Newsagent in Porthmadog and a local Butchers at Criccieth. Ironically, Gwyn Evans even produced a batch of healing oil - for the benefit of others - on his dying day in June 1989! It was at this point that his son Kelvin Evans took over the production of Olew Gewynnau (Muscle Oil). Recently there has been a surge in demand for Muscle Oil not only locally but globally. Hundreds of positive feedback reports from users have caused an explosion in its popularity. People who have suffered prolonged and chronic pain have commented on the soothing and relieving power of the liniment. Some people, who don’t want to go through surgery, prefer to use the oil for painful joint relief. Modern day athletes and sports people including runners, climbers, and cyclists use oil regularly before and after any strenuous activity. In fact, Muscle Oil is widely used on farm and domestic animals (pets) for the relief of pain in ligaments, joints, and muscles. Iechyd is one of the local stockists of Olew Gewynnau Muscle Oil - so why not try it - 150 years of it being used is testimony in itself! |
Hello my husband has a bakers cyst brought on my gym (cycling) and pushing a lawn mower for long periods. Can I use your muscle oil on it? Thanks Jules